Blog 

 Darllenwch beth sydd gan Ymladdwyr Tân a gweithwyr yn yr Ystafell
 Reoli  i’w ddweud am bobl sy’n gwneud galwadau ffug maleisus
.

 Gwylfa Las, Gorsaf Dyffryn  25 - 02 - 2009 

Fel Ymladdwyr Tân rydym ni’n mynd yn grac ac yn gwylltio gyda galwadau ffug maleisus bwriadol.

Mae’n rhaid i ni drin pob galwad 999 fel argyfwng, yn enwedig y rhai sy’n dweud fod bywydau ac eiddo mewn perygl. Mae’n rhaid i’n meddyliau, ein paratoadau a’n gweithredoedd, cyn ac ar ôl cyrraedd y digwyddiad sydd wedi’i riportio, fod yn barod ar gyfer gwir argyfwng. Mae derbyn galwad ffug maleisus yn rhwystredig a thorcalonnus, yn enwedig os oes gwir argyfwng yn digwydd tair neu bedair milltir i ffwrdd wrth i chi ymateb i’r alwad ffug.

Nid yw galwadau ffug maleisus yn ddoniol, maent yn drosedd, yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr, amser ac arian cyhoedd yn ogystal â pheryglu bywydau.

  Anfon Sylw

_________________________

Rheolwraig Gorsaf Melanie Evans, Uned Troseddu Tân   23 - 02 - 2009 

Mae delio gyda galwadau ffug maleisus i’r Gwasanaeth Tân yn hynod o rwystrol. Rwy’ wedi profi nifer o’r galwadau hyn ar hyd gyrfa 14 mlynedd gyda’r Gwasanaeth Tân, ac mae’r rhwystredigaeth yna bob tro.

Mae nifer o’r galwadau yr ydym yn eu derbyn yn cael eu gwneud gan blant sy’n chwilfrydig ac fe fyddant yn rhoi’r ffôn i lawr pan fyddwn yn eu herio. Ond y galwadau ffug maleisus gan oedolion yr wyf i’n cael hi’n anodd deall. Allai ddim deall beth sy’n gwneud i bobl eisiau galw’r Gwasanaeth Tân a gwneud y galwadau ffug maleisus hyn.

Yn aml maen nhw’n creu stori am y digwyddiad ffug gan roi manylion penodol sy’n aml yn cynnwys pobl wedi’u dal mewn adeiladau sydd ar dân, mae’n warthus!

Ym mhen amser, fe fydd un o’r galwadau hyn yn digwydd ar yr un pryd a galwad wirioneddol a bydd rhywun yn colli eu bywyd. Mae gwneud galwadau ffug maleisus yn gwastraffu amser Ymladdwyr Tân a’r staff sy’n gweithio yn yr Ystafell Reoli ac fe all fod yn beryglus iawn i’r cyhoedd. Y perygl sylfaenol yw y bydd Criwiau Tân sy’n mynychu galwad ffug yn methu a mynychu argyfwng gwirioneddol.

  Anfon Sylw

_________________________


         Galwadau Ffug

       
         Ffeithiau a Ffigurau
         


         Blog
 
                 


         Posteri'r Ymgyrch
                  
 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 15/8/2011
SWFRS