Pecyn cymorth addysgiadol diflewyn-ar-dafon sydd wedi’i greu gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r Effaith Domino. Ei nod yw addysgu gyrwyr newydd a phobl ifanc ynghylch effeithiau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ar fywydau pobl.
Ymladdwyr tân yw’r rhai cyntaf ar safle digwyddiad yn aml iawn ac felly rhai o’r rhai cyntaf i gael eu heffeithio. Er hynny, mae’r effaith bellgyrhaeddol yn mynd lawer ymhellach na’r criw argyfwng. Teulu a ffrindiau’r rhai fu mewn damwain yw’r rhai sydd ar ôl i ddelio â cholli anwyliaid ac i gwestiynu a allai’r ddamwain fod wedi’i hosgoi petai’r gyrrwr wedi gyrru’n fwy gofalus.
Nod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw cyflwyno’r Effaith Domino i bobl ifanc dros 15 oed ar hyd De Cymru. Bwriad y neges yw gwneud i bobl ifanc feddwl am yr effaith y gallai gwrthdrawiad ei chael ar eu teulu a’u ffrindiau. Bwriad arall yw addysgu pobl ifanc ynghylch gyrru’n gyfrifol gan sôn am oryrru, defnyddio ffôn symudol, gwisgo gwregys ac yfed a gyrru.
Holiadur ar-lein