Ar gyfartaledd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ymateb i dros ddeugain o ddigwyddiadau ‘achub anifeiliaid mawr’ y flwyddyn. Yn ystod 2006, roedd rheolwyr Tîm Datblygu Gweithredol ac Adolygu’r Gwasanaeth yn mynychu detholiad o’r digwyddiadau hyn fel rhan o’u cylch gwaith i fonitro gweithgarwch gweithredol a nodi meysydd cryfder a datblygu.
Penderfynwyd y dylid ymgymryd ag adolygiad o bolisïau, ymatebion offer a hyfforddiant y Gwasanaeth i sicrhau bod arferion gwaith diogel mewn grym i bersonél ac anifeiliaid mewn digwyddiadau.
Sefydlwyd Tîm y Prosiect Anifeiliaid Mawr ac roedd e’n cynnwys Cynllunwyr Tactegol a phedwar gwirfoddolwr o orsafoedd gweithredol a oedd â phrofiad arwyddocaol mewn delio ag Anifeiliaid Mawr.
Cafwyd gwybodaeth werthfawr gan Dîm y Prosiect trwy weithio gyda nifer o Wasanaethau Tân ac Achub a oedd yn gallu rhannu ‘arfer gorau’ ac ‘arfer nodedig’. Roedd y rhain yn cynnwys Hampshire, Caint a Dwyrain Sussex.
Gofynnwyd am gyngor proffesiynol, arweiniad a gwybodaeth gan sefydliadau eraill, megis yr RSPCA, Cymdeithas Ceffylau Prydain a Chymdeithas Milfeddygon Ceffylau Prydain. Roedd y cyngor proffesiynol ac arbenigol yn profi’n amhrisiadwy wrth ddatblygu’r prosiect hwn.
Ar ôl adolygiad tri mis, cyflwynodd Tîm y Prosiect adroddiad i Fwrdd Dilyniant Corfforaethol y Gwasanaeth yn cynnig nifer o opsiynau i wella galluoedd Ymateb i Anifeiliaid ledled y Gwasanaeth.
Ar sail adroddiad tîm y prosiect, rhoddwyd cymeradwyaeth i ddarparu hyfforddiant arbenigol ac offer gwell i griwiau mewn tair gorsaf. Nodwyd mai’r gorsafoedd oedd Pen-y-bont ar Ogwr, Malpas a Glyn Ebwy. Detholwyd y lleoliadau hyn ar ôl astudio gwybodaeth ystadegol a lledaeniad daearyddol Digwyddiadau Anifeiliaid Mawr dros dair blynedd. Yn ychwanegol, mae’r gorsafoedd hyn mewn lleoliadau da ac yn gallu darparu cyflenwad strategol ar draws de Cymru.
Mae personél yn y tair gorsaf hyn yn dilyn modiwl Ymwybyddiaeth/Achub Anifeiliaid tri diwrnod, wedi’i ddylunio gan Dîm y Prosiect a’i seilio ar gwrs tebyg a redir ar hyn o bryd gan Wasanaeth Tân ac Achub Hampshire.
Cynhelir dau ddiwrnod cyntaf y cwrs ar gampws Brynbuga, Coleg Gwent lle bydd y criwiau yn derbyn cyfarwyddiadau ac yn ennill profiad ymarferol a chyfarwyddo gyda thrin amrywiaeth o anifeiliaid mawr. Mae achubwyr hefyd yn cael profiad, yn aml am y tro cyntaf, ac ymwybyddiaeth well o ymddygiad ac ymateb tebygol anifail ar ôl trawma.
Cyflwynir y trydydd diwrnod yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Fan hyn mae criwiau’n cael eu hyfforddi gan gyfarwyddwyr y Ganolfan ac aelodau tîm y prosiect ar dechnegau achub diogel ac ymarferol gan ddefnyddio offer achub a diogelu personol newydd.
Ychwanegiad gwerthfawr at yr adnoddau hyfforddi fu prynu “Lucky” – ceffyl manicin rwber maint llawn o America. Defnyddir y manicin yn y rhan fwyaf o senarios hyfforddi a gyflwynir yn y modiwl hyfforddi hwn.
Mae aelodau o’r RSPCA a milfeddygfeydd lleol yn mynychu’r modiwlau i arsylwi a chael dealltwriaeth o’r technegau a’r gweithdrefnau diogelwch y bydd y Criwiau Achub Anifeiliaid yn eu gweithredu yn ystod digwyddiadau.
Bydd pob gorsaf arall yn cael Pecyn Hyfforddiant Achub/Ymwybyddiaeth Anifeiliaid ar gyfer hyfforddi parhaol, sy’n cynnwys CD hyfforddi. Bydd y pecyn hwn yn amlinellu’r gweithrediadau cadarnhaol maen nhw’n gallu ymgymryd â nhw yn y lleoliad wrth aros i’r criwiau achub Anifeiliaid Mawr gyrraedd.
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LLANTRISANTCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000Ffacs: 01443 232180E-Bost: GTDC@decymru-tan.gov.uk