Er mwyn cyflawni hyn, mae gan y Gwasanaeth 50 o Orsafoedd sydd wedi’u staffio mewn amryw o ffyrdd. Mae 28 ohonynt yn cael eu staffio gan Ymladdwyr Tân Rhan Amser yn unig. Mae’r ymladdwyr tân hyn yn byw ac yn gweithio o fewn pum munud i’w Gorsaf leol ac fe’u gelwir yno i ymateb i ddigwyddiadau, yn ôl yr angen, gan sicrhau bod peiriant tân ar gael yn barhaus. Caiff 11 o’r Gorsafoedd eu staffio yn barhaus gan Ymladdwyr Tân Llawn Amser sy’n sicrhau bod peiriant tân ar gael ar amrantiad yn barhaus. Yn ychwanegol, mae 9 Gorsaf pellach sy’n darparu criwiau Llawn Amser a Rhan Amser i’w peiriannau tân.Yn gyfredol, caiff y ddwy orsaf olaf eu disgrifio fel eu bod wedi’u ‘Staffio yn ystod y dydd’. Mae gan y gorsafoedd hyn Ymladdwyr Tân Llawn Amser sy’n darparu gwasanaeth gwarchod o’r Orsaf yn ystod oriau gwaith, ac o’u cartrefi yn ystod y nosweithiau ac ar benwythnosau. Yn debyg i’r Ymladdwyr Tân Rhan Amser, mae angen i’r Ymladdwyr Tân hyn fyw o fewn pum munud i’w Gorsafoedd. Darperir yr un safon o hyfforddiant a chyfarpar i bob un o’n Hymladdwyr Tân beth bynnag fo’u system ddyletswydd, a phenderfynir sut i staffio’r Gorsafoedd ar sail Asesiad Risg o’r ardal. Mae GTADC yn addo y byddant yn cynnig y gwasanaeth argyfwng gorau posib i’w cymunedau o fewn yr adnoddau a ganiateir.