Er mwyn sicrhau ein bod yn cynllunio ac yn llwyddo i wella ein gwasanaethu’n gyson, mae gennym fframwaith rheoli perfformiad yn ei le. Mae rheoli perfformiad yn bennaf yn ymwneud â rheoli da. Dyma’r modd y trefnwn ein hunain i gyflawni ein huchelgais am welliant parhaus a rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn. Mae gan bawb o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei ran i chwarae yng ngwella ein gwasanaethau. Cynlluniwyd ein fframwaith rheoli perfformiad er mwyn sicrhau bod ein holl staff yn gwybod ac yn deall egwyddorion rheoli perfformiad a’r ffordd y cymhwysir yr egwyddorion hynny o fewn ein sefydliad.
Mae Rheoli Perfformiad yn ofyniad yn Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella
Cyflwynwyd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella (WPI) i Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn 2002 ac eithrio’r Gwasanaethau Tân ac Achub. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu Rhaglen Gwelliannau ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru (WPI-FRA) ac fe’i gweithredwyd ers Ebrill 2007.
Mae Rhaglen Gwelliannau Cymru’n galw ar yr Awdurdodau Tân ac Achub (FRAs) i wella eu gwasanaethau’n barhaus, i wneud gwelliannau sydd werth yr arian, a chynnydd yn eu heffeithiolrwydd sy’n "wirioneddol ac yn gynaliadwy neu ganiatáu mwy o wasanaethau, neu wasanaethau gwell, i ddarparu’r un mewnbwn adnodd". Mae hyn yn adlewyrchu agenda diwygio gwasanaeth cyhoeddus ehangach Llywodraeth y Cynulliad fel y’i gosodwyd yn agenda ‘Creu’r Cysylltiadau’.
Rydym yn cyhoeddi ein Cynllun Gwelliannau’n a Cynllun Gwella Crynodeb Cyhoeddus flynyddol sy’n amlinellu'r ardaloedd y rhoddir blaenoriaeth iddynt yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ac sy’n cynnig gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â’n perfformiad yn erbyn ein dangosyddion strategol a chraidd.