Perfformiad 

Defnyddir gwybodaeth perfformiad i wella gweithredoedd y gwasanaeth o ddydd i ddydd ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Rydym yn monitro ystod o ddangosyddion perfformiad, rhai ohonynt wedi eu gosod yn statudol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eraill a osodwyd gennym yn lleol:

Dangosyddion Strategol
Maent yn ofyniad statudol, o dan Raglen Gwelliannau Cymru ac fe’u gosodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r dangosyddion yn ddarostyngedig i archwiliad allanol.

Dangosyddion Craidd
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gosod y rhain hefyd. Mae’r dangosyddion craidd yn cynnig darlun mwy cyflawn a gorffenedig o berfformiad.

Dangosyddion Lleol
Gosodir y rhain gan adrannau unigol neu gyfarwyddiaeth er mwyn adlewyrchu eu blaenoriaethau lleol.

Defnyddir ein system rheoli dangosyddion perfformiad (OWLE) i fonitro ein perfformiad. Mae’r system hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth gysylltiedig â’n dangosyddion perfformiad gan gynnwys perfformiadau cyfredol a hen berfformiadau a’r targedau yr anelwn atynt. Mae’r system ar gael i holl staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ond nid yw ar gael yn gyhoeddus fodd bynnag.

Bob chwarter ac yn flynyddol rydym yn adrodd yn ôl am ein perfformiad gogyfer â’n dangosyddion statudol i’n Cyfarwyddwyr a’n Haelodau Awdurdod Tân. Mae pob cyfarwyddiaeth yn gyfrifol am adrodd am y gweithgareddau maent yn ymgymryd â hwy i gyflawni’r targed a osodwyd ac unrhyw weithred adferol fydd ei hangen lle mae’r perfformiad yn is na’r targed a ragwelir. Mae ein Huned Rheoli Perfformiad yn casglu ac yn cyflwyno’r adroddiad hwn.


 

Adroddiadau Chwarterol

2010 - 2011
2009 - 2010
2008 - 2009
2007 - 2008
2006 - 2007
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 28/9/2011
SWFRS